About Rock Mill

Steeped in history & tradition, Rock Mill nestles in the heart of West Wales. On the very borders of Ceredigion & Carmarthenshire. This picturesque Nineteenth Century stone mill was built by the present owners great grandfather, John Morgan. Perched on the banks of the Clettwr river. The last continuously water driven woollen mill in Wales.

Four generations of the Morgan family have worked this mill, producing pure wool Welsh blankets, shawls & throws and of course the iconic Welsh tapestry bedcover. Using traditional methods & skills passed down through the generations. It is little changed since the Nineteenth century; Stone built with low ceilings & flag stone floors. Built on two levels and served by the impressive overshot water wheel.

Rock houses a variety of machinery from Nineteenth century spinning wheels known as Great wheels, to later industrial gems such as the Dobcross looms & spinning mules ;The power source is an unusual double cast iron overshot waterwheel 12 feet in diameter and 7 feet wide, made by the Cardigan "Bridgend" foundry, and installed when the mill was built. The waterwheel drives line shafting through the mill, with a direct drive to carding and spinning machinery. A generator driven from the line shaft is used to power two weaving looms.

This area in Wales was once the centre of Woollen production, with dozens of mills thronging the powerful Teifi River & its tributaries. Thousands of people were employed in some part of the industry during the Industrial revolution; Weavers & spinners, Dyers & knitters, drapers & tailors. Most are long gone, but not all are consigned to the museums.

Rock Mill is a working Mill, producing a traditional & contemporary range of Woven blankets, throws & Tapestry bedcovers for a whole new generation. Donald Morgan uses traditional methods passed down through his family and the mill is open to visitors for a small charge.

Hanes Rock Mill

Yn 1890 adeiladodd John Morgan ei felin ar y graig, ar fanc y Clettwr. Fe oedd hen dadcu y perchennog presennol, Donald Morgan. John Morgan fu’n gyfrifol am sefydlu’r olwyn ddŵr sydd wedi pweru’r felin ers dros ganrif bellach. Dyma’r felin hynaf yng Nghymru i weithio’n barhaol ar ynni dŵr.

Donald yw’r pedwerydd cenhedlaeth o’r teulu Morgan i gynhyrchu blancedi gwlân pur Cymreig yma, ynghyd â’r garthen draddodiadol Cymreig. Does fawr wedi newid yma ers dyddiau John Morgan, gyda’r dulliau a sgiliau traddodiadol wedi eu trosglwyddo dros y cenedlaethau.

Yn y felin garreg yma, gyda’i thoeon isel a’i lloriau carreg, daw’r ynni o’r olwyn ddŵr wreiddiol, o weithfeydd haearn ‘Bridgend’ yn Aberteifi.

Mae’r gorffennol yn fyw o hyd yn Rock Mill. O’r ‘Olwyn Fawr’ 19eg ganrif i’r dechnoleg ddiweddarach fel y gwŷdd Dobcross a’r mul troelli, mae’r felin weithiol draddodiadol yma yn rhoi’r cyfle i chi gael cipolwg o’r cyfnod pan oedd y diwydiant gwlân yn ei anterth ar hyd glannau’r Teifi a’r afonydd sy’n ei bwydo.

Bu dwsinau o felinau ar hyd Dyffryn Teifi, gyda miloedd yn gweithio yn y chwyldro diwydiannol lleol. Gwehyddion a nyddwyr, lliwyddion a gwauwyr, dilledyddion a teilwriaid – roeddynt oll yn gwasanaethu’r melinau a fu’n danfon cynnyrch gwlanen i gymoedd diwydiannol de Cymru a thu hwnt.

Mae’r mwyafrif wedi mynd, ond mae Rock Mill yn parhau i gynhyrchu a gwerthu cynnyrch gwlanen traddodiadol Cymreig, yn defnyddio technegau o’r amser gynt.

Yr afon Clettwr sy’n dal i bweru’r olwyn ddŵr anghyffredin haearn bwrw ddwbwl ‘overshot’. Mae’n 12 troedfedd mewn diamedr, ac yn 7 troedfedd o uchder, a daeth hi o Aberteifi pan gafodd y felin ei hadeiladu.

Mae’r olwyn ddŵr yn gyrru gwerthyd llinell drwy’r felin, gyda gyriad uniongyrchol i’r peirianwaith cribo a nyddu sy’n coethi’r gwlân. Mae generadur o’r gwerthyd llinell hefyd yn pweru dau wŷdd gwehyddu.

Gwelwch y felin ar ei waith wrth deithio o gwmpas. Gwelwch hanes yn fyw wrth i Rock Mill barhau i greu blancedi traddodiadol, ynghyd â detholiad cyfoes o flancedi, ‘throws’ a carthenni gwely.

Gallwch weld Donald yn ymarfer y dulliau traddodiadol a gafodd eu trosglwyddo trwy’r cenedlaethau ers ddyddiau John Morgan yn 1890.

Gallwch drefnu ymweld â’r felin am ffi fechan. Mae yna hefyd ddetholiad o gynnyrch gwlanen a wneir ar y safle, a nifer o anrhegion traddodiadol eraill ar gael yn y siop drws nesaf i’r Felin.